Skip to content.
HEA logo ADM logo

ein hanes ni

what we do photo banner





ADM-HEA yw Canolfan Pwnc Academi Addysg Uwch ar gyfer Celf, Dylunio a Chyfryngau. Fe’n sefydlwyd yn 2000 i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu yng nghyswllt  theori ac ymarfer celf, dylunio a chyfryngau, hanes celf a dylunio a phynciau astudiaethau diwylliannol.

Rydym yn gweithio gyda phobl mewn sefydliadau addysg uwch a phellach, cymdeithasau pwnc a chyrff proffesiynol, er mwyn archwilio a nodi cyfleoedd i ddatblygu ymarferion effeithlon mewn dysgu ac addysgu yng ngyhyswllt celf, dylunio a chyfryngau.

Ein nod yw gwella profiad dysgu myfyrwyr trwy:
greu a chefnogi rhwydwaith o bobl sy’n ymwneud â darparu pynciau addysg uwch mewn celf, dylunio a chyfryngau.

hwyluso rhannu gwybodaeth ar draws y rhwydwaith a ffurfio a chyflwyno cysylltiadau gyda chyrff proffesiynol a chymdeithasau pwnc

hyrwyddo a rhannu ymarfer da mewn dysgu ac addysgu


Sut yr ydym yn cyflawni'r amcanion hyn?


Y rhwydwaith
Rydym wedi datblygu ac yn parhau i ehangu ein rhwydwaith o gydweithwyr. Cefnogir y rhwydwaith gan gyfarfodydd rhanbarthol ble y gall cydweithwyr gyfarfod a rhannu a datblygu syniadau. Rydym yn annog a hwyluso cyfathrebiaeth pellach a thrafodaeth trwy gyfrwng ein gwefan, cylchlythyr a gwasanaeth JISCMAIL.

Digwyddiadau
Rydym wedi datblygu, cefnogi a lledaenu gwybodaeth am ystod o ddigwyddiadau sydd wedi eu cynllunio i wella profiad y myfyrwyr mewn pynciau celf, dylunio a chyfryngol yn aml mewn cydweithrediad â chymdeithasau pwnc a chyrff proffesiynol eraill. Mae’r gweithgareddau yn amrywio o weithdai rhanbarthol i seminarau a chynadleddau cenedlaethol. , 

Prosiectau
Rydym yn datblygu, cefnogi ac ariannu prosiectau ymchwil a datblygiad ar y cyd ac fe rennir y canlyniadau ar draws y rhwydwaith. Mae’r Ganolfan Pwnc yn darparu prosiectau bychain oddi fewn i golegau a phrifysgolion ac yn cyfrannu tuag at brosiectau mwy mewn cydweithrediad  ag asiantaethau cenedlaethol.

Adnoddau
Er mwyn ychwanegu at y prosiectau ymchwil a datblygu, rydym yn defnyddio profiad a chreadigedd ein cydweithwyr i ddatblygu casgliad o adolygiadau adnoddau, astudiaethau achos ac ymchwil pedagogig. Mae’r adnoddau hyn yn cael eu rhannu ar draws y gymuned trwy ein gwefan a’n cylchlythyr.

Cyngor
Os oes gennych gais unigol am gymorth neu wybodaeth ysgrifennwch atom neu cysylltwch â ni trwy’r ffôn neu’r e-bost os gwelwch yn dda ac fe geisiwn eich helpu. Ar y llaw arall gallwch anfon eich ymholiad i  ADM-HEA JISC LIST - gan dderbyn ymateb gan aelodau eraill sydd ar y rhestr.

Sut y gallwch chi ymwneud â’r rhwydwaith :

  • Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn ein cylch lythyr sy’n ymddangos deirgwaith y flwyddyn.
  • Ymunwch â gwasanaeth  ADM-HEA JISCMAIL er mwyn derbyn ein bwletin e bost wythnosol a rhannu gwybodaeth a barn ar lein gyda chydweithwyr:
  • ysgrifennwch astudiaeth achos neu adolygiad adnodd o lyfr, CD neu wefan a chael eich talu am wneud hynny
  • cyflwynwch gynigiad am weithdy neu dderbyn help i drefnu gweithdy
  • derbyniwch  gefnogaeth i ddatblygu eich prosiect yn cynnwys mynediad at arian, cyngor ac adborth
  • dywedwch wrth eich cydweithwyr am y gwaith yr ydych yn ei wneud yn y rhwydwaith
  • Goleuwch waith yr Academi Addysg Uwch trwy anfon eich barn a’ch ymholiadau atom.